Croeso i Gylch y Graig - cylch gofal plant meithrin cyfrwng Cymraeg sydd wedi’i leoli yn Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd. Mae gennym leoedd i blant rhwng 2.5 oed ac oedran ysgol. Rydym yn agored 4 bore o'r wythnos (Dydd Llun - Dydd Iau) yn ystod amser tymor.
Mae’r Cylch yn lleoliad gofal plant gofalgar gydag ardaloedd y tu fewn a thu allan. Rydym yn dilyn y Cwricwlwm i Gymru ac yn anelu at greu amgylchedd dysgu cadarnhaol, gan gefnogi plant i ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol, sy'n gyfranwyr creadigol ac yn unigolion iach a hyderus!
Os yw eich plentyn chi yn 3 neu 4 oed gallwch ddefnyddio eu nawdd blynyddoedd cynnar neu’r cynnig gofal plant a ariennir i dalu am sesiynau. Cysylltwch neu dewch i mewn i'n gweld er mwyn cael dysgu rhagor.
Gweithgareddau:
Rydym yn dilyn y Cwricwlwm i Gymru, gan gefnogi plant i ddod yn:
Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau.
Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
Dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd.
Unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Mae pob plentyn yn unigryw a byddwn y gweithio tuag at y pedwar diben drwy gyflwyno pum llwybr datblygu, Sef : Perthyn, Cyfathrebu, Archwilio, Datblygiad Corfforol a Llesiant. Bydd Staff Y Cylch yn cyflwyno’r cwricwlwm i blant trwy baratoi profiadau a chyfleoedd sydd yn hwyliog ac yn heriol. Mae gennym ‘bolisi drws agored’ - bydd arweinydd y Cylch yn hapus i drafod datblygiad ac anghenion eich plentyn gyda chi.
Oriau / Ffioedd
Dydd Llun i Ddydd Iau yn ystod tymor yr ysgol (gweler dyddiadau’r tymor: Dyddiadau tymor ysgol | Cyngor Sir Ddinbych)
Gallwch ddewis o 3 sesiwn ar gyfer eich plentyn:
Ar agor dydd Llun i ddydd Gwener
Oriau addysg: 9yb-11yb (£10)
Bore: 8.30yb-1yp (£20)
Goal cofleidiol meithrin bore: 8.30yb-9yb a 11.30-3yp (£20)
Dechrau buan: 8yb-8:30yb (£5)
Diwrnod llawn: 8.30yb- 3yp (£32.50)
Mae'r ffioedd hyn yn unol â chyfraddau Llywodraeth Cymru ac yn cael eu gwerthuso yn flynyddol.
Mae rhieni a gwarcheidwaid yn gallu gwneud cais am ofal plant wedi'i ariannu ac addysg gynnar am hyd at 30 awr yr wythnos (o’r tymor ar ol i’ch plentyn droi’n 3 oed).
Mae 30 awr yn cynnwys:
o leiaf 10 awr o addysg gynnar yr wythnos - cofrestrwch yma
hyd at 20 awr yr wythnos o ofal plant - cofrestrwch yma
Gallwch hefyd dalu drwy eich cyfrif Gofal Plant sy'n Rhydd o Dreth
Lleoliad
Cylch Meithrin Y Graig,
Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd,
Llanfair Dyffryn Clwyd,
Rhuthun,
Sir Ddinbych,
LL15 2RU
-
Sam
Rwy'n byw yn Rhuthun gyda fy mhartner a'n dwy ferch. Dechreuais weithio yn Cylch Y Graig yn mis Medi 2023 ond mae gen i 18 mlynedd o brofiad mewn gofal plant. Mae gen i Lefel 5 mewn Gofal Plant (Rheoli) a Lefel 3 Gwaith Chwarae. Gofal plant yw fy angerdd. Rwy'n mwyhnau gwylio plant yn tyfu ac yn datblygu gyda ni cyn cychwn ar eu taith ysgol.
-
Menai
Rwy’n byw yn Rhuthun ac mae gen i ddau o blant a pedwar o wyrion.
Mae gennyf Lefel 3 mewn Gofal a Datblygiad plant a, dros amser, wedi gweithio mewn gosodiadau gwahanol gyda plant infanc. Rwyf wedi gweithio yn Cylch y Graig ers Medi 2023 ac yn mwynhau gweithio gyda’r plant a bod yn rhan o’r tim sydd yn cael hwyl ac sydd bob amser yn brwydfrydig.
-
Dani
Cynorthwyydd
Helo, Dani dw i. Rwy'n gynorthwyydd Cylch a dwi'n gweithio tuag at fy gymhwyster Lefel 3 mewn Gofal a Datblygiad Plant ac rwy'n dysgu Cymraeg fel fy nhrydedd iaith. Rwy'n mwynhau gweithio gyda'r plant a gweld eu meddyliau creadigol yn eu chwarae. Rwyf wedi bod yn gweithio yng Nghylch Y Graig ers Mai 2023 ac mae gen i brofiad o weithio mewn meithrinfa. Rwy'n byw yn Llanfair gyda fy ngwr a 2 o blant.
-
Neisha
Cynorthwyydd
Dwi'n byw yn lleol a rydw i wedi bod yn gweithio yn Cylch y Graig ers Tachwedd 2023, dwi'n gweithio tuag at fy lefel 2 mewn gofal a'r datblygiad plant, a rydw i'n gallu siarad Cymraeg yn rhygl. Dwi'n hoffi gweithio gyda'r plant ac yn mwynhau gwylio nhw yn dysgu ac yn datblygu trwy eu chwarae.
-
New List Item
Cynorthwyydd
Rwy’n nyw yn Rhuthun gyda fy mhartner a fy merch. Rwy’n gynorthwydd Cylch a mae gennyf Lefel 3 mewn Gofal a Datblygiad Plant a Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae. Rwyf wedi gweithio yn Cylch Y Graig ers Medi 2024 ac wedi gweithio o fewn gofal plant ers 20 mlynedd. Dwi’n hoffi gwiethio gyda’r plant a’i gwylio nhy’n tyfu ac yn ymdrechu i ddod a phositifrwydd i’r gweithle.
Cysylltwch â ni.
ebost: cylchygraig@gmail.com